JAMES, EVAN ('Ieuan ap Iago'; 1809 - 1878), a'i fab, JAMES, JAMES ('Iago ap Ieuan'; 1833 - 1902), cyfansoddwyr 'Hen Wlad fy Nhadau'

Enw: Evan James
Ffugenw: Ieuan ap Iago, Iago ap Ieuan
Dyddiad geni: 1809
Dyddiad marw: 1878
Plentyn: James James
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: cyfansoddwyr 'Hen Wlad fy Nhadau'
Maes gweithgaredd: Cerddoriaeth; Barddoniaeth
Awdur: Watkin William Price

Gwehydd a marsiandwr gwlan a gwlanen ydoedd Evan James. Yr oedd yn cadw'r Ancient Druid Inn yn Argoed, plwyf Bedwellty, sir Fynwy, pan anwyd ei fab James. Symudodd y teulu yn gynnar wedi hynny i Bontypridd, lle yr oedd gan y tad ffatri wlan yn Mill Street. Yr oedd Evan James yn dipyn o fardd; ceir engreifftiau o'i waith yn Gardd Aberdar, 1854, Cymru (O.M.E.), 1915, etc. Yn ôl Taliesin James, wyr Evan James, y mab a gyfansoddodd yr alaw yn 1856, a'r tad a ysgrifennodd y geiriau. Ceir trafodaeth lawn ar y pwnc gan Percy A. Scholes, Mus. Doc., yn Cylchgrawn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, iii, 1-10 , ynghyd â darluniau o'r tad a'r mab a chopïau ffacsimile o fersiynau llawysgrif ac argraffedig. Mae erthygl ddiweddarach yn Cylchgrawn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, viii, 244-57 yn nodi rhesymau dros amau priodoli'r alaw i James James.

Cynhwysodd James James yr alaw, â'r teitl 'Glanrhondda', yn y casgliad o alawon nas cyhoeddwyd a anfonodd i gystadleuaeth yn eisteddfod genedlaethol Llangollen, 1858, dan y ffugenw 'Orpheus' (Minor Deposit 150B ). Cynganeddwyd hi gan John Owen ('Owain Alaw'), beirniad y gystadleuaeth, a'i cynhwysodd hi yn nhrydedd gyfrol ei Gems of Welsh Melody , 1860. Daeth y gân yn boblogaidd bron ar unwaith. Canwyd hi yn eisteddfod genedlaethol Aberystwyth, 1865, gan Kate Wynne, a'r flwyddyn ddilynol yn eisteddfod genedlaethol Caer, gan Lewis W. Lewis ('Llew Llwyfo').

Bu Evan James farw 30 Medi 1878 a chladdwyd ef yng nghladdfa Carmel, eglwys y Bedyddwyr, Pontypridd. Bu James James yn cadw tafarnau - yn Walnut Tree Bridge (islaw Pontypridd) a Aberpennar; bu'n byw am gyfnod gyda'i fab yn y Swan Hotel, Aberaman. Bu farw yn 6 Hawthorne Terrace, Aberdâr, 11 Ionawr 1902, a chladdwyd ef yng nghladdfa gyhoeddus Aberdâr.

Ar 23 Gorffennaf 1930 dadorchuddiwyd cofadail i'r tad a'r mab, gwaith Syr William Goscombe John, R.A., ym mharc Ynysangharad, Pontypridd.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.