JAMES, THOMAS EVAN (‘Thomas ab Ieuan ’; 1824-1870), gweinidog gyda'r Bedyddwyr ac awdur;
g. 17 Mawrth 1824, ym Mhencraig, plwyf Llangoedmor, sir Aberteifi, mab Evan a Mary James. Symudodd y teulu i Aberteifi pan oedd ef tua 13 oed. Bu am beth amser yn was fferm Heolcwm, plwyf Ferwig, sir Aberteifi. Ymunodd â'r Bedyddwyr, a bu'n gwasanaethu yn anordeiniedig yn eglwys Groesgoch, sir Benfro (1851-2). Urddwyd ef, a gwnaed ef yn weinidog Pontestyll, ger Aberhonddu (1853-6). Bu hefyd yng Nghwmbach, Aberdâr (1856-8), Castell Nedd (1858-61), a Glyn Nedd (1861-70). Bu f. 21 Mehefin 1870. Ymhlith ei weithiau ceir Marwnad Joel Jones, gweinidog ym Mhwllheli; Coffadwriaeth y Cyfiawn neu sylwedd pregeth … or farw Dafydd Jones o Gaerdydd a Stephen Edwards o Rymni; Deigryn ar ol Cyfaill … John Jones, Merthyr; Cofiant … James Davies, gweinidog y Bedyddwyr yn Cincinatti, Ohio. Casglodd a golygodd ddetholiad o farddoniaeth, Bwrdd y Beirdd yn cynnwys Detholion Prydyddol o waith Prif Feirdd yr Oes, a golygodd hefyd lyfryn ar Christmas Evans, sef, Christmasia neu rai o nodweddiadau … Christmas Evans, gan Bleddyn (D. Owen, ‘Brutus’ [q.v.]).
Llyfryddiaeth:
- Neillduolion … T. E. James, Glynnedd, 1875;
- Llawlyfr Bed., 1871;
- Cardiff Catalogue.
Awdur:
Griffith Milwyn Griffiths, M.A., Aberystwyth