Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



JAMES, CHARLES HERBERT (1817-1890), aelod seneddol dros Ferthyr 1880-8, mab ieuaf William James, bragwr, Merthyr Tydfil, a oedd yn frawd i Christopher James (gw. James, W. Milbourne); g. ym Merthyr 16 Mehefin 1817. Addysgwyd ef yn ysgol Taliesin Williams ym Merthyr ac yn ysgol breswyl Goulstone ym Mryste. Pan ymadawodd â'r ysgol aeth i'w hyfforddi yn gyfreithiwr at William Perkins, a daeth wedyn yn bartner iddo; derbyniwyd ef yn gyfreithiwr yn 1838. Priododd Sarah, merch Thomas Thomas, sylfaenydd cwmni sebon Christopher Thomas, Bryste. Cymerodd ran amlwg ym mywyd dinesig Merthyr; bu'n gadeirydd y pwyllgor gwyddoniaeth a chelfyddyd ac yn gefnogydd brwd i lyfrgell y dref. Magwyd ef yn Wesle ond trodd at yr Undodwyr a bu yn llywydd y gymdeithasfa Undodaidd. Ef oedd un o brif noddwyr Henry Richard [q.v.] yn 1868, ac yn 1880 daeth yn gyd-aelod ag ef dros fwrdeisdref Merthyr. Ymneilltuodd yn 1888, ac etholwyd D. A. Thomas, wedi hynny Arglwydd Rhondda [q.v.], yn ei le. Bu f. ym Merthyr 3 Hydref 1890.

Yn 1892 cyhoeddwyd tair gyfrol o'i eiddo, Seven Lectures on Various Subjects, Letters … giving a Description of the House of Commons, a What I remember about myself and Old Merthyr.

Llyfryddiaeth:

  • S. W. Daily News, 4 Hydref 1890;
  • What I remember about myself and Old Merthyr;
  • C. Wilkins, Hist. Merthyr Tydfil, 451-2.

Awdur:

Walter Thomas Morgan (1912-90), Aberystwyth