Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



JAMES (HOPKIN-JAMES o 1910 ymlaen), LEMUEL JOHN HOPKIN (‘Hopcyn ’; 1874-1937), clerigwr a hynafiaethydd; g. 2 Medi 1874 yn Nhreorci, yn fab i John a Margaret James, ac yn ddisgynnydd (yn y bumed genhedlaeth) o'r bardd Lewis Hopkin [q.v.]. O ysgol y Bont-faen aeth yn 1893 i Goleg Queens’ yng Nghaergrawnt, a graddio yn 1896. Ymhell wedyn, ymgorfforodd yng Ngholeg y Drindod, Dulyn, a graddio yno'n LL.B. (1920) a LL.D. (1921); yr oedd yn F.S.A. Ar ôl ei urddo (1897, 1898), bu'n gurad ym Mrynbuga (1897), Llangynwyd (1898), Maendy, Casnewydd-ar-Wysg (1901), a Llangatwg y Barri (1906). Bu wedyn yn ficer Ystrad Mynach (1906-17), yn rheithor y Bont-faen a'r eglwysi cysylltiedig (1917-24), yn ficer S. Martin's, Caerdydd (1924-34), ac yn ficer Llanynys a Llanychan yn Nyffryn Clwyd (1934-5). Yr oedd yn ganon yn Llandaf er 1926, a bu'n ganghellor yr eglwys honno o 1930 hyd ei f., 11 Ebrill 1937. Yr oedd yn sgrifennwr diwyd dros ben, eithr o'i ysgrifau a'i lyfrau niferus (ar bynciau agos at ei swydd fel clerigwr y mae a fynno'r rhan fwyaf ohonynt) ni ellir yma enwi ond y pedwar sy'n fwyaf eu gwerth i chwilotwyr, sef (a) Hopkiniaid Morganwg, 1909; (b) Hen Gwndidau, casgliad a olygwyd ganddo ef a T. C. Evans (‘Cadrawd’) [q.v.], 1910; (c) Old Cowbridge, 1922; (ch) The Celtic Gospels, 1934.

Llyfryddiaeth:

  • Venn, Alumni Cantab.;
  • Hopkiniaid Morganwg, 377-81.

Awdur:

Yr Athro Emeritus Robert Thomas Jenkins, C.B.E., D.Litt., Ll.D., F.S.A., (1881-1969), Bangor.