Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



JAMES, ISAAC (1766-1840), pregethwr gyda'r Methodistiaid Calfinaidd; g. naill ai ym mhlwyf Lledrod neu ym mhlwyf Llanilar, yn fab i Richard James (ar hwn, gw. Meth. Cymru, ii, 56-7); crydd wrth ei grefft. Wedi priodi, yn llanc 17, aeth i fyw i Ben-y-garn, a dechreuodd bregethu. Dyn od, a'i bregethau a'i weddïau'n llawn o ymadroddion trawiadol, a fawrygid gan wŷr fel Ebenezer Richard ac Evan Harris a Richard Jones o'r Wern — a chan Henry Rees, a ddywedodd amdano: ‘nid oedd llawer yn ei ystyried yn bregethwr mawr, ond un mawr oedd o er hynny.’ Bu f. 14 Ebrill 1840, yn 74 oed; claddwyd yn Llanfihangel-genau'r-glyn.

Llyfryddiaeth:

  • John Evans, Trydydd Byr-Gofiant. etc., 52-9.

Awdur:

Yr Athro Emeritus Robert Thomas Jenkins, C.B.E., D.Litt., Ll.D., F.S.A., (1881-1969), Bangor.