Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



JAMES, IVOR (1840?-1909), cofrestrydd cyntaf Prifysgol Cymru, a hanesydd; g. yn sir Fynwy, c.1840, yn disgyn (meddir) o deulu Arnold, Llanfihangel Court [q.v.]. Wedi peth amser yn Queens' College, Caergrawnt, aeth i Lundain yn newyddiadurwr; bu hefyd yn astudio'r gyfraith ac, ar un adeg, yn ystyried cymryd urddau eglwysig. Yr oedd wedi ymsefydlu yn Abertawe erbyn yr adeg pan oedd y mudiad i sefydlu coleg prifathrofaol i wasnaethu Deheudir Cymru a Mynwy ar droed. Gweithiodd ef yn ddygn dros gael gosod y coleg hwnnw yn Abertawe, a phan bennwyd ar Gaerdydd mynnodd y rhai a fu'n gweithio dros Gaerdydd gael James yn gofrestrydd cyntaf y coleg newydd — gwelent fod ganddo dalent arbennig ar gyfer gwaith o'r fath. O hynny ymlaen, sef o 1883, gweithiodd yn galed dros y sefydliad newydd, gan lwyddo i drefnu bod llyfrgell fawr E. G. R. Salisbury [q.v.], yn cynnwys llyfrau yn delio â Chymru a'r gororau, yn dyfod yn eiddo i Goleg Caerdydd. Yn y cyfamser bu ef a W. Cadwaladr Davies [q.v.], cofrestrydd coleg newydd Bangor, yn gydysgrifenyddion y pwyllgor a oedd yn trefnu i gael siarter i Brifysgol Cymru, a phan sefydlwyd y brifysgol daeth James yn gofrestrydd cyntaf iddi (Mawrth 1895) a dal y swydd hyd oni ymddeolodd yn 1906.

Trwy gydol ei oes — yn Llundain, Abertawe, a Chaerdydd — rhoes James lawer o sylw i rai agweddau ar lenyddiaeth Lloegr ac yn arbennig hanes Cymru yn yr 16eg g. a'r 17eg. Yr oedd greddf y gwir ymchwilydd ynddo, a threuliodd lawer o'i amser yn yr Amgueddfa Brydeinig a'r Public Record Office. Credai ef mai Cymro, sef y capten Thomas James y ceir ei hanes yn y D.N.B., oedd arwr ‘The Ancient Mariner’ (S. T. Coleridge), a chyhoeddodd lyfryn (Cardiff, 1890) o'r enw The Source of the Ancient Mariner. Ysgrifennodd i'r Traethodydd 1886, ac y mae ganddo bedair erthygl ar Maurice Kyffin yn Wales (gol. O. M. Edwards), 1894 a 1895. Rhoesai sylw arbennig i gyflwr yr iaith Gymraeg a chyhoeddi, 1887, pamffledyn, The Welsh Language in the 16th and 17th Centuries. Ceir syniad gweddol glir am ei wahanol ddiddordebau Cymreig a Seisnig os astudir y llawysgrifau a restrir isod. Bu f. 13 Ebrill 1909 yng Nghaerdydd yn 69 oed.

Llyfryddiaeth:

  • West. Mail, 14 Ebrill 1909;
  • The Nationalist, Mai 1909;
  • N.L.W. MSS. 3482, 4301-39.

Awdur:

Syr William Llewelyn Davies, M.A., LL.D., F.S.A. (1887-1952), Aberystwyth

Atodiadau a chywiriadau:

JAMES, IVOR (1840?-1909; Bywg., 398) g. Ivor James, neu Ivor Barnold Robert James, fel y gelwai ei hun, 21 Medi 1840, yn ‘Britannia’, ym mhentref Rock, ym mhlwy Bedwellte, Sir Fynwy, yn fab i Robert James a Mary (Arnold) ei wraig. Ar ochr ei fam, felly, yr oedd iddo gysylltiad â theulu Llanddewi Nant Hodni a Chwrt Llanfihangel. Symudodd y teulu i Lansamlet lle y bu'r tad yn ysgolfeistr. Bu Ivor James yn newyddiadurwr yn Llundain am gyfnod a chymerai ddiddordeb hefyd mewn darllen dogfennau yn yr Amgueddfa Brydeinig cyn iddo fynd i Gaergrawnt. Pr. tua 1870 â Margaret Elborough Pruen, merch Dr. Henry Pruen, rheithor Ashchurch, swydd Caerloyw. Darllener E.R.G. Salisbury (nid ‘E.G.R.’).

Llyfryddiaeth:

  • Gw. hefyd South Wales Daily Post, 14 Ebr. 1909;
  • W. Samlet Williams, Hanes a Hynafiaethau Llansamlet (Dolgellau 1908).

Awdur:

Prys Morgan, Abertawe