Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



JAMES, JAMES (1760-1831), gweinidog Methodistaidd ac Annibynnol; g. 24 Tachwedd 1760 o rieni cefnog ym Mhen-blaen, Aberedw, sir Faesyfed. Ymunodd â'r Methodistiaid yn ieuanc yn erbyn ewyllys ei rieni, a dechreuodd bregethu yn 1782. Addysgwyd ef yn Nhrefeca, a gwnaeth ei drigias yno am saith mlynedd ar ôl ei ordeinio. Yr oedd yn un o'r rhai a neilltuwyd yn ordeiniad cyntaf y Methodistiaid yn Llandeilo Fawr, 1811. Yr oedd yn bregethwr nerthol yn y ddwy iaith, a gwasnaethai'n aml yng nghapel Philip Oliver, Caer. Yn ei flynyddoedd canol aethai'n rhy dew i deithio, a derbyniodd alwad i fugeilio eglwys Annibynnol Heol y Castell, Abergafenni, yn 1818. Bu f. 10 Ebrill 1831.

Llyfryddiaeth:

  • Hanes Meth. Cymru, iii, 322;
  • H.E.A.C., i, 52;
  • Joseph Evans, Biog. Dict., 138;
  • J.M. Jones, Ordeiniad 1811 144.

Awdur:

Y Parch. Gomer Morgan Roberts, M.A., (1904-93), Pont-rhyd-y-fen / Llandudoch / Llandybïe