Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



JAMES, JAMES (‘Iago Emlyn ’; 1800-1879), gweinidog gyda'r Annibynwyr a bardd; g. yn Lloegr o rieni Cymreig yn 1800. Gadawyd ef yn amddifad pan yn wyth oed, a gofalwyd amdano gan ei famgu yn Dinas, ger Castellnewydd Emlyn. Bu am rai blynyddoedd yn fasnachwr mewn amryw leoedd, yn eu plith Bryste. Yn 1840 aeth i goleg diwinyddol Caerfyrddin, a bu'n bugeilio eglwysi yn Llanelli, Caerdydd, Casnewydd, a Portishead. Collodd ei iechyd ac ymneilltuodd i fyw yn Clifton, Bryste. Bu f. 5 Ionawr 1879 a chladdwyd ef ym Mryste. Yr oedd yn ysgolhaig medrus, ac yn fardd o gryn fri. Cyhoeddwyd cyfrol o'i farddoniaeth yn 1848 dan y teitl, Cyfansoddiadau Buddugol a Cherddi Ereill, cyfrol arall yn 1863, Gweithiau Barddonol Iago Emlyn, a thraethawd, The Philosophical Construction of Celtic Nomenclature … yn 1869.

Llyfryddiaeth:

  • Asaph (Em. W.);
  • Not. W.;
  • Congl. Year Book, 1880;
  • N.L.W. MS. 9261.

Awdur:

Griffith Milwyn Griffiths, M.A., Aberystwyth