JAMES, JOHN (1815-1869), bardd ac emynydd;
g. yn Tregolwyn, Bro Morgannwg. Pan yn blentyn tair blwydd collodd ei olwg. Er ei amddifadu o fanteision addysg foreol, daeth yn awdur nifer o emynau a phenillion. Cyhoeddwyd llawer o'i gyfansoddiadau: Seren Bethlehem (Penybont, 1849; ail arg., Aberdâr, 1865); Casgliad o Emynau Gwreiddiol (Aberdâr — heb ddyddiad), wedi ei gyfieithu gan Isaac Jenkins; Twyni Tregolwyn (Aberdâr, 1864). Yr oedd yn aelod gyda'r Wesleaid yn Nhregolwyn. Bu f. Mawrth 1869, a'i gladdu ar y 19eg o'r mis yn Nhregolwyn.
Llyfryddiaeth:
- Rhagair i Seren Bethlehem (Penybont, 1859);
- Twyni Tregolwyn (Aberdâr, 1864).
Awdur:
Dr Moelwyn Idwal Williams, M.A., Aberystwyth