Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



JAMES, JOHN (Ioan ap Iago ’), emynydd a bardd o ail hanner y 18fed g. a dechrau y 19eg, nid oes sicrwydd am flwyddyn ei eni na'i farw. Trigai yn ardal Cilycwm, Llanymddyfri. Saer coed ydoedd. Ni chafodd addysg, ond trwy ei ymdrechion personol daeth yn ysgolhaig da. Cymerai ddiddordeb mewn hanes, gwleidyddiaeth, a barddoniaeth. Daeth at grefydd yn ieuanc, bu'n aelod yn Soar (Methodistiaid Calfinaidd), Cilycwm, am 46 mlynedd, ac yn flaenor yno am 25 mlynedd. ‘Jacki Siams’ y gelwid ef yn yr ardal. Daeth yn fardd pur enwog yn ei ddydd a chyfansoddodd amryw o emynau. Wedi ei farw cyhoeddwyd llyfryn o'i waith gan J. Jones, Llanymddyfri, yn 1828, Ehediadau Barddonol.

Llyfryddiaeth:

  • Ehediadau Barddonol, 1828.

Awdur:

Y Parch. Daniel Evans, B.A., ( -1962), Llandybie / Llanymddyfri