Dysgodd hefyd y grefft o rwymo llyfrau, ac ym Mai 1808, wedi cwrs o bedwar mis yng Nghaerfyrddin, agorodd siop lyfrau. Ym Mai 1809, sefydlodd wasg argraffu yn ei dŷ yn Heol y Bont, Aberystwyth — y wasg gyntaf yn y dre, ond ni wyddai ddim am argraffu, a chafodd gymaint o golled nes gorfod iddo, ym Medi 1812, werthu ei ran o'r fusnes i'w bartner. Menter bennaf y wasg oedd cyhoeddi yn 1811 Pigion o Hymnau o'i waith ef ei hun.
Cyhoeddodd hefyd Etholedigaeth wedi ei Hystyried mewn Pregeth (Caerfyrddin, 1808), aHanes Cymdeithas Llundain er Taeniad Cristianogrwydd y’mhlith yr Iuddewon (Aberystwyth, 1811). Cadwyd pregethau, llyfr cofnodion, a phethau eraill o'i eiddo yn N.L.W. MS. 692.
Benjamin George Owens, M.A., Aberystwyth