JAMES, JOHN (1779-1864), y gweinidog Undodaidd cyntaf yn sir Aberteifi, ac ysgolfeistr;
g. dydd Mercher y Lludw 1779 yng Nglynderi ar dir Rhydybenne, Llangeler, sir Gaerfyrddin. Ar restr tanysgrifwyr Telyn Dewi ceir ei enw fel disgybl Davis Castellhywel. Yn 1802 ceisiodd am dderbyniad i Goleg Caerfyrddin, ond fe'i gwrthodwyd (yn ei dyb ef) am ei fod yn Undodwr. Yr un flwyddyn fe'i derbyniwyd i academi Exeter dan Kenrick a Bretland. Ni bu yma ond 18 mis gan feddwl mynd i Goleg York, ond darbwyllodd Charles Lloyd [q.v.] ef i dderbyn galwad oddi wrth eglwysi Undodaidd ifanc Ceredigion. Dechreuodd ar waith ei fywyd yn 1803-4 gan agor ysgol yn Ystrad. Yn Awst 1814 derbyniodd alwad o Gellionnen. Addawodd ofalu amdani a phregethu yno unwaith y mis. Yn gynnar yn 1815 derbyniodd alwad o Benybont-ar-Ogwr a Betws, a bu yma o 26 Mai 1816 hyd 26 Mai 1818 (ac yn achlysurol hyd 22 Tachwedd 1818). Rhoes Benybont i fyny gan wasanaethu Gellionnen yn unig. Yr oedd yn ysgolfeistr llwyddiannus a phregethwr huawdl. Dywedir iddo siomi na chafodd ei apwyntio yn athro yng Ngholeg Caerfyrddin yn 1814 a bod yn ei fryd ef a David Davis (Castellnedd) gychwyn academi yng Nghastellnedd, ond ni ddaeth dim o'r cynllun. Cyfieithodd yn Gymraeg holwyddoreg neu gatecism Dr. Priestley, 1805; a dau draethawd, y cyntaf ar y geiriau Prynedigaeth, Pridwerth, Pwrcas … a'r ail ar y Geiriau a fabwysiadir yn y Testament Newydd agydyntyn dwyn perthynas i Ebyrth, 1807. Yn 1808-11 cyhoeddodd Ymofyniad am Sylfaen yr Athrawiaeth o Haeddiant Crist mewn pedwar rhifyn. Yn 1824 cyhoeddodd ei gyfieithiad, Ymofyniad tawel i'r Athrawiaeth Ysgrythurol am Berson Crist, gan Thomas Belsham. Bu f. 1 Medi 1864 yn 85 mlwydd oed a chladdwyd ef ym mynwent Pantydefaid.
Llyfryddiaeth:
- Yr Ymofynnydd, 1864, 244; 1895, 49; 1890, 1891, 1892, 1897 — dau ddwsin o ysgrifau gan T.T.; Awst 1938, 124-5; Awst 1942, 118-23.
Awdur:
Y Parch. Thomas Oswald Williams, M.A., (1888-1965), Llanbedr-pont-Steffan