Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



JAMES, MARIA (1793-1868), bardd; g. 11 Hydref 1793, hwyrach yng Ngogledd Cymru. Ymfudodd i America gyda'i rhieni yn 1800. Ymsefydlodd y teulu yn Clinton, Efrog Newydd a threuliodd hi ei hun y rhan fwyaf o'i bywyd, o 10 mlwydd oed ymlaen, fel morwyn. Dangosodd gryn allu i gyfansoddi barddoniaeth, a chyhoeddwyd casgliad o'i gwaith dan olygyddiaeth A. Potter yn Efrog Newydd yn 1839 dan y teitl, Wales and other Poems. Bu. f. 11 Medi 1868 yn Rhinebeck, Efrog Newydd.

Llyfryddiaeth:

  • N.L.W. MS. 9261;
  • Asaph (Em. W.);
  • Y Brython, v, 158;
  • Enw. F.;
  • Cardiff Catalogue.

Awdur:

Griffith Milwyn Griffiths, M.A., Aberystwyth