Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



JAMES, Syr WILLIAM MILBOURNE (1807-1881), arglwydd ustus, mab Christopher James, masnachwr cefnog ym Merthyr Tydfil, a oedd yn frawd i William James (gw. James, C. H.); g. ym Merthyr, 1807. Addysgwyd ef yn ysgol y Parch. John James, Gellionnen, gweinidog Undodaidd, ac ym Mhrifysgol Glasgow. Galwyd ef i'r Bar o Lincoln's Inn yn 1831. Bu am rai blynyddoedd yn ymarfer ar gylchdaith De Cymru, ond wedyn canolbwyntiodd ar ei fusnes siansri enfawr. Yn 1846 priododd Maria, merch Dr. Otter, esgob Chichester. Gwnaed ef yn farchog yn 1869 a phenodwyd ef yn arglwydd ustus apêl yn 1870. Yr oedd yn Rhyddfrydwr brwd ac awgrymwyd ef fel ymgeisydd am sedd Merthyr pan ddewiswyd ei gefnder, C. H. James, yn 1880, ond yr oedd wedi colli cysylltiad â materion Cymreig ac ni ddangosodd erioed lawer o ddiddordeb ym mudiadau cenedlaethol Cymru. Bu f. yn ei gartref yn Llundain 7 Mehefin 1881.

Llyfryddiaeth:

  • D.N.B.;
  • The Welsh Dragon, i, 483-93;
  • C. Wilkins, Hist. Merthyr Tydfil, 451-2.

Awdur:

Walter Thomas Morgan (1912-90), Aberystwyth