Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



JAMES, ROBERT (‘Jeduthyn ’; 1825-1879), cerddor; g. 7 Mawrth 1825 yn Aberdâr, mab Morgan ac Ann James. Derbyniodd ei addysg gerddorol yn nosbarthiadau Rosser Beynon. Meddai lais da, a dewiswyd ef yn arweinydd canu yng nghapel Bethesda, Merthyr, yn 1845. Sefydlodd gymdeithas gerddorol ac enillodd lawer o wobrwyon mewn eisteddfodau. Cyhoeddodd y gymdeithas Organ y Cysegr, sef casgliad o alawon cysegredig wedi eu trefnu gan Robert James. Yr oedd yn gyfansoddwr da, a bu amryw o'i anthemau yn boblogaidd ym Merthyr a'r cylch. Ceir tôn yn Telyn Seion (Rosser Beynon) dan yr enw ‘Aberfan’ o'i waith. Yn 1853 priododd Ann Parry (chwaer i'r Dr. Joseph Parry) ond bu hi f. yn 1855. Aeth i Awstralia yn 1857, ac arhosodd yno bum mlynedd. Daeth yn ôl i Gymru, a bu'n cynnal cyngherddau am chwe mis. Ymfudodd yr ail waith, i Unol Daleithiau America, ac aeth a'i deulu yng nghyfraith gydag ef, gan ymsefydlu yn Danville, Pennsylvania. Symudodd oddi yno i Ashland i swydd ‘Clerk of the Courts of Lucerne County’ yn 1876, a thrachefn i Wilkesbarre, lle y bu f. 6 Hydref 1879.

Llyfryddiaeth:

  • M. O. Jones, Byw. Cerdd. Cymr.;
  • David Morgans, Music and Musicians of Merthyr;
  • Y Cerddor, Mehefin, 1893.

Awdur:

Robert David Griffith, M.A., (1877-1958), Hen Golwyn

Atodiadau a chywiriadau:

JAMES, ROBERT (Bywg., 401) Darllener Dannville a Wilkes-barré.