Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



JAMES, JAMES (SPINTHER) (1837-1914), un o haneswyr enwad y Bedyddwyr; g. ym mis Ebrill 1837, yn y Brachgoed, Talybont, Ceredigion, yn ail fab i Humphrey a Catherine Jones — symudodd y teulu i Fwlch-y-dderwen ar odre Pumlumon, pan nad oedd ef ond plentyn; ond gan barhau i fod yn aelodau gyda'r Bedyddwyr yn Nhalybont, lle y bedyddiwyd James James (yn ddiweddarach ar ei fywyd y chwanegodd y ‘Spinther’) yn 13 oed. Bugail (a gyrrwr gwartheg) oedd ef hyd 1854, pan aeth i Aberdâr i'r pyllau glo. Yn Aberdâr ymdaflodd i'r bywyd llenyddol effro a gefnogid gan ei weinidog Thomas Price [q.v.]; ond yn Nhalybont, yn ystod egwyl o segurdod yn y gwaith glo, y dechreuodd bregethu. Aeth i athrofa'r Bedyddwyr yn Hwlffordd yn 1859. Urddwyd ef yn 1861 yn weinidog yn Llanelian-yn-Rhos, a chododd gapelau yn Hen Golwyn a Llanddulas. Priododd Elizabeth Hobson o Landudno. Yn 1865-6 bu'n weinidog yn America; yna, wedi bod am ychydig heb ofalaeth, bu am ychydig fisoedd (yn 1867) yn weinidog yn y Treuddyn a Choedllai; ond yn 1870 sefydlwyd ef yng Nglanwydden, lle y bu am ugain mlynedd. Pregethai'n huawdl (ac areithiai'n wresog ar bynciau politicaidd), ond nid oedd yn ddyn cymeradwy. Eithr fel llenor a hanesydd fe weithiai'n ddiflino. Sgrifennodd ryw gymaint o brydyddiaeth, a chyhoeddodd gasgliadau o emynau; ond y mae'n llawer mwy adnabyddus fel sgrifennwr ar hanes, yn enwedig hanes ei enwad. Cyfrannodd nifer mawr o ysgrifau a phenodau i lyfrau fel Cymru Meudwy Môn’ (Owen Jones) [q.v.], Hanes y Brytaniaid a'r Cymry Gweirydd ap Rhys’ (R. J. Pryse) [q.v.], ac Enwogion y Ffydd. Gyda Ioan Emlyn’ (John Emlyn Jones) [q.v.], cwplaodd Y Parthsyllydd (1870-5 — gw. hanes y llyfr yn Cardiff Catalogue). Ond diamau mai ei brif hawl i glod yw ei bedair cyfrol Hanes y Bedyddwyr yng Nghymru (1893-1907), gwaith nad yw'n rhy ddymunol ei ysbryd nac yn gymesur ei ymdriniaeth, ond sydd eto'n hynod ddefnyddiol. Cyhoeddodd hefyd yn 1906 lyfr bychan, Y Gwasanaeth a wnaeth y Bedyddwyr i'r Byd, a gafodd gylchrediad mawr. Bu f. yn ddisymwyth, 5 Tachwedd 1914.

Llyfryddiaeth:

  • Seiliwyd gan mwyaf ar ysgrif Thomas Shankland, Gen. (Gŵyl Dewi), 1915, 9-15;
  • Spinther MSS. yn Ll.G.C.

Awdur:

Yr Athro Emeritus Robert Thomas Jenkins, C.B.E., D.Litt., Ll.D., F.S.A., (1881-1969), Bangor.

Atodiadau a chywiriadau:

JAMES, JAMES (SPINTHER ; Bywg., 399) Braich-garw, nid ‘Brachgoed’.