JAMES, THOMAS (1827 - 1899), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd

Enw: Thomas James
Dyddiad geni: 1827
Dyddiad marw: 1899
Rhiant: Sarah James
Rhiant: Thomas James
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Gomer Morgan Roberts

Ganwyd 18 Gorffennaf 1827, yn Llansawel, Sir Gaerfyrddin, mab Thomas a Sarah James. Symudodd gyda'i dad i Ddowlais yn 1842, ymaelododd yn Hermon, a dechreuodd bregethu yno. Addysgwyd ef yn ysgol Ffrwd-fâl, Trefeca, a Phrifysgol Glasgow - lle y graddiodd yn M.A. Ordeiniwyd ef yn sasiwn Castellnewydd Emlyn, 1861, ac ymsefydlodd yn Llanelli, lle bu'n cadw ysgol ramadeg am dymor. Bugeiliodd yr eglwys yng Nghapel Newydd ar hyd ei oes.

Ysgrifennodd lawer i'r Drysorfa a'r Cylchgrawn; bu'n cydolygu 'r olaf gydag Edward Matthews ac 'Islwyn.' Yr oedd yn bregethwr grymus a goleuedig, ac yn arweinydd craff i'w gyfundeb. Ef, yn anad neb, a sefydlodd y fugeiliaeth eglwysig ymhlith Methodistiaid Sir Gaerfyrddin. Bu farw yn Llanelli, 27 Medi 1899. Cyhoeddwyd nifer o'i bregethau yn ei Gyfrol Goffa, 1901.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.