JAMES, THOMAS (1834-1915), athro ysgol, a gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd;
g. yn y Ferwig gerllaw Aberteifi, yn fab i of a oedd yn Eglwyswr, ond Methodist oedd ei fam. Tua'r 20 oed, â'i fryd ar y weinidogaeth, aeth i ysgol ym Mlaenannerch, ac oddi yno (1858) i Drefeca. Yn 1862, enillodd un o ysgoloriaethau'r Dr. Daniel Williams, ac aeth i Brifysgol Glasgow, lle y graddiodd yn 1866; bu wedyn am rai misoedd yn Edinburgh. Dychwelodd yn 1867 i Gymru; ordeiniwyd ef yn fugail ar achos (bychan iawn) y Methodistiaid Calfinaidd yn Llandysul, yn 1868, ac agorodd ysgol yno; daliodd at honno hyd 1894, pan oedd yn 60 oed. Bu f. 6 Medi 1915, a chladdwyd ym mynwent yr Annibynwyr, ar gyfer ei dŷ yn Llandysul. Nid oedd yn bregethwr poblogaidd; nid oedd ganddo fawr ddim gwaith bugeilio; ychydig dros ben a sgrifennodd. Naws ysgolhaig oedd ynddo; yr oedd ei wybodaeth o'r ieithoedd clasurol, o'r Hebraeg ac o'r Almaeneg, yn drwyadl. Yn herwydd ei ysgol, yn bennaf, y mae lle iddo yn y gyfrol hon. Bu'n athro llwyddiannus dros ben, a hynny mewn ardal sy'n enwog am ei thraddodiad o ysgolion ac athrawon. Aeth nifer mawr o wŷr a fu wedyn yn adnabyddus iawn i ‘ysgol Tomos Jâms,’ a sonnir amdani yng nghofiannau gweinidogion o bob enwad.
Llyfryddiaeth:
- M. P. Morgan yn Blwyddiadur MC, 1915;
- adnabyddiaeth bersonol.
Awdur:
Yr Athro Emeritus Robert Thomas Jenkins, C.B.E., D.Litt., Ll.D., F.S.A., (1881-1969), Bangor.