Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



JAMES, OWEN WALDO (1845-1910), gweinidog y Bedyddwyr; g. yn Llanfachraeth, Môn, yn fab i John a Margaret James, ac yn frawd i Edward James, Nefyn [q.v.]. Annibynwyr oedd ei deulu, ond ymaelododd ef gyda'r Bedyddwyr ym Mhont-yr-arw yng nghyfnod gweinidogaeth John Jones (‘Mathetes’), ac ef oedd un o'r chwe myfyriwr cyntaf i'w derbyn i Goleg Llangollen. Ordeiniwyd ef yn Hebron, Dowlais, 1865, a symudodd i'r Tabernacl, Merthyr, 1872, Ebeneser, Aberafan, 1878, Edwardsdale, Pa., U.D.A., 1887, Rhosllannerchrugog, 1890, a Blaenclydach, 1893. Etholwyd ef yn ysgrifennydd a goruchwyliwr Cymdeithas Genhadol Gartrefol Bedyddwyr Cymru yn 1900, ond ni bu llwyddiant ar y gwaith ac ymddiswyddodd yntau. Bu am beth amser yn gofalu am eglwysi Barri a Godreaman ac ymsefydlodd ym Methania, Porth, yn 1905. Collodd ei iechyd a mynd i fyw i Ben-coed, ger Penybont-ar-Ogwr, lle y bu f. 18 Gorffennaf 1910.

Ym Merthyr bu'n aelod o'r bwrdd ysgol, ac yn Aberafan cododd ysgol Frutanaidd newydd ac ail-adeiladu capel Ebeneser. Bu'n cystadlu llawer mewn eisteddfodau, a ffugenw ar draethawd oedd yr enw ‘Waldo’ i ddechrau. Bu'n gofalu am argraffiad i'r De o'r Herald Cymraeg, a chyhoeddodd Adnodau Dyrys y Testament Newydd, 1887; Blinder Diweddaraf yr Eglwysi … Anerchiad …, 1883; ac Esboniad y Bobl. Yr Efengyl yn ol Marc, 1895. Priodolir iddo hefyd lawlyfr cyfarfodydd.

Llyfryddiaeth:

  • Llawlyfr Bed., 1911;
  • Ser. Cymru, 18 Gorffennaf 1910;
  • Bapt. Hdbk., 1911;
  • Gen., 1912;
  • O. L. Roberts, Cofiant Edward James, 1906.

Awdur:

Benjamin George Owens, M.A., Aberystwyth