JAMES, WILLIAM (1761-1845), gweinidog gyda'r Annibynwyr;
g. yn Abersŵn, Llanllwni, ar Sul y Blodau, 1761. Ymaelododd yn Rhyd-y-bont, a dechreuodd bregethu'n ifanc. Bu'n cadw ysgol yng Nglyn Tawe, yna (1785-9) aeth i academi ‘Caerfyrddin,’ a drigai ar y pryd yn Abertawe. Yna urddwyd ef yn weinidog eglwysi Watford a Chaerdydd (Trinity); yn ffermdy Ysguborwen yr oedd yn byw. Tua 1826 perswadiwyd ef i symud i'r dre, gan roi Watford (a'r fferm) i fyny. Bu f. 26 Chwefror 1845, yn 84 oed. Ni bu fawr lwyddiant ar ei weinidogaeth — yr achos, mae'n debyg, oedd meithder anarferol ei bregethau, a amrywiai o awr a hanner i ddwy awr a hanner.
Llyfryddiaeth:
- J.T.J., i, 592;
- H.E.A.C., ii, 419-20;
- N.L.W. MS. 10327.
Awdur:
Yr Athro Emeritus Robert Thomas Jenkins, C.B.E., D.Litt., Ll.D., F.S.A., (1881-1969), Bangor.