JAMES, WILLIAM (1848-1907), gweinidog Undodaidd, ysgolfeistr, a dyn cyhoeddus;
g. yng Nghamnantfach, Pontshan, Llandysul, 13 Ebrill 1848, a gwyddai felly am etholiad ‘68 a'r troi allan. Cafodd ei addysg yn ysgol Pontshan dan Thomas Thomas, ac aeth i Goleg Caerfyrddin yn 15 oed — Caerfyrddin (1863-6); Manchester New College, Llundain (1866-9); Edinburgh (1869-70); graddiodd yn B.A. Llundain yn 1871. Bu'n athro cynorthwyol i T. Thomas (1870-1) ac i G. Heaviside, Coventry, 1872. Cafodd alwad i ofalu am Hen-Dŷ-Cwrdd Aberdâr yn 1873 yn ystod afiechyd Rees Jenkin Jones. Ymhen chwe mlynedd derbyniodd alwad i fugeilio eglwysi Llwynrhydowen, Bwlchyfadfa, a Llandysul. Ni bu yma ond am wyth mlynedd oherwydd afiechyd. Gadawodd y pulpud gan droi i fyd masnach, ond ni pheidiodd â phregethu. Digon yw sôn amdano fel ysgolfeistr (1873-83); fel arholwr yng Ngholeg Caerfyrddin (1882-7); fel ustus heddwch a dyn cyhoeddus, er mwyn dangos lawned ei fywyd ymhob cyfeiriad. Daeth â dylanwad meddwl mawr Martineau, yng nghamre ‘Gwilym Marles,’ i'w enwad a'i ardal. Yr oedd ganddo feddwl diwylliedig a chalon fawr. Bu'n ysgrifennydd a llywydd y Gymdeithas Undodaidd a chyhoeddodd ei araith o'r gadair, Crefydd Cymru a'r dyfodol, 1895, a golygodd Gwersi ar fywyd Iesu Grist, 1897-9; 1900-1. Ysgrifennodd lawer i'r Ymofynydd, a chofir am erthyglau ‘Nyth y Fran’; bu'n gyd-olygydd, 1903-7. Bu f. 26 Hydref 1907 a chladdwyd ef ym mynwent Pantydefaid.
Llyfryddiaeth:
- O.C.C., 109-10;
- Unit. Students, 83;
- Yr Ymofynnydd, 1907, Rhagfyr 1938, 193-4;
- Welsh Political and Educational Leaders in the Victorian Era, 677.
Awdur:
Y Parch. Thomas Oswald Williams, M.A., (1888-1965), Llanbedr-pont-Steffan