JARDINE, JAMES (bu f. 1737), gweinidog Annibynnol;
g. yn Llanboidy, sir Gaerfyrddin, mab amaethwr llwyddiannus. Yr oedd yn aelod yn Henllan neu Rydyceisiaid, sir Gaerfyrddin. Yn 1720 yr oedd yn weinidog yn Ninbych. Priododd ferch ei ragflaenydd, y Parch. Thomas Baddy [q.v.]. Bu f. yn 1737 a chladdwyd ef yn yr Eglwys Wen, Dinbych. Mab iddo oedd David Jardine [q.v.].
Llyfryddiaeth:
- N.L.W. MS. 9261;
- J.T.J., i, 597.
Awdur:
Y Parch. John Dyfnallt Owen, M.A., (1873-1956), Aberystwyth