JARVICE (JERVIS), WILLIAM (bu f. 1743), gweinidog gyda'r Annibynwyr.
Prin yw'r cofnodion amdano. Ar y cychwyn yr oedd ‘eglwysi cynulledig’ neu gynulleidfaoedd eglwysig Maldwyn, a adnabyddid fel Eglwys Maldwyn, yn cynnwys Annibynwyr, Bedyddwyr, a Chrynwyr, o dan ofal un gweinidog, a chynorthwyid ef gan nifer o rai eraill. Tebyg mai un o'r cynorthwywyr hyn oedd William Jarvice ar y dechrau; cawn ei enw gyntaf (yn 1703 neu 1713) ynglŷn â chynulleidfa Llanbrynmair, a addolai ar y pryd yn y ‘conventicle’ yn Nhŷ Mawr, fel cyd-weinidog â Reynallt Wilson; wedi ei farw ef rhwng 1715 a 1720 daeth i'w ran ofalu am holl gynulliadau y sir. Rywbryd tua 1733 symudodd i Lanfyllin a chyfyngodd ei hun i'r cynulliad yno. Tybir gan rai iddo ymadael â Llanbrynmair oherwydd ei ddaliadau ar fedydd. Bu f. yn Llanfyllin yn 1743 ac yno y claddwyd ef.
Llyfryddiaeth:
- H.E.A.C., i, 237, 260, 274;
- Llawlyfr Undeb Machynlleth, 1928, 33;
- Hen Gapel Llanbrynmair, 1939, 34.
Awdur:
Y Parch. Richard Griffith Owen, M.A., (1890-1973), Bangor