JEFFREYS, JOHN (1718? - 1798), cerddor

Enw: John Jeffreys
Dyddiad geni: 1718?
Dyddiad marw: 1798
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: cerddor
Maes gweithgaredd: Cerddoriaeth
Awdur: Robert David Griffith

Ganwyd yn Llanynys, sir Ddinbych, c. 1718. Cydoesai â John Williams ('Ioan Rhagfyr'), Dolgellau. Ceir y dôn ' Hero ' o'i waith yn Haleliwia Drachefn (G. Harries), a ' Traethdon ' ('chant') yn Y Cerddor Cymreig, Awst 1867. Fe'i hadwaenir yn bennaf fel cyfansoddwr y dôn ' Dyfrdwy,' a genir gan gynulleidfaoedd yn gyffredinol. Bu farw yn 1798.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.