JEFFREYS, THOMAS TWYNOG (1844 - 1911), bardd

Enw: Thomas Twynog Jeffreys
Dyddiad geni: 1844
Dyddiad marw: 1911
Priod: Ellen Jeffreys (née Evans)
Plentyn: Myfanwy Jones (née Jeffreys)
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: bardd
Maes gweithgaredd: Barddoniaeth
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Ganwyd yn Nhalsarn, Llanddeusant, Caerfyrddin, 25 Chwefror 1844. Cafodd ysgol yn Llanddeusant, ond tua'r 14 oed aeth i weithio ar fferm ei deulu, Pwllygerwyn. Yn 1864 aeth i weithio mewn siop yn Aberdâr, ac ymdaflodd i fywyd crefyddol a llenyddol y dref. Yn 1869 ymbriododd ag Ellen Evans, ferch John Evans ('Cymro Du'), un o swyddogion gwaith haearn Abernant; a phan symudodd Evans i waith arall Fothergill, ym Mhendarren, Merthyr Tydfil, aeth Jeffreys yno gydag ef. Ond yn 1875 symudodd i bentref Rhymni, lle y daeth yn berchen siop esgidiau. Bu'n ganolbwynt cylch llenyddol yn Rhymni. Torrodd ei iechyd i lawr tua 1892 - yr oedd yn ferthyr i'r cryd cymalau, ac er iddo ymgymryd â gwaith teithiwr masnachol gan gredu y byddai bod allan yn lles iddo, ni thyciodd hynny - ac am dros bymtheng mlynedd cyn ei farw bu'n gaeth i'w dŷ. Bu farw ar ddydd ei ben blwydd yn 1911. Cyhoeddodd yn 1904 gyfrol fechan o'i farddoniaeth, Tannau Twynog; ac yn 1911 golygodd ' Dyfed ' gyfrol goffa iddo - gweler honno am fanylion pellach.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.