JEHU, DAVID (1812 - 1840), cenhadwr yn Sierra Leone o dan nawdd Cymdeithas Genhadol y Wesleaid

Enw: David Jehu
Dyddiad geni: 1812
Dyddiad marw: 1840
Rhiant: Timothy Jehu
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: cenhadwr yn Sierra Leone o dan nawdd Cymdeithas Genhadol y Wesleaid
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Evan Lewis Evans

Mab Timothy Jehu, tafarn y King's Head, Meifod, Sir Drefaldwyn. Ymserchodd mewn crefydd pan oedd yn 16 oed a dechreuodd bregethu o dan ddylanwad gweindogaeth y Parchn. D. Jones a J. Williams, Llanidloes; yr oedd yn brentis gyda J. Williams. Fe'i cynigiodd ei hun i wasanaethu yn y maes cenhadol, cafodd ei addysg yn y Wesleyan Theological Institution, Hoxton, Llundain, ac, yn 1839, cafodd ei dderbyn gan gynhadledd y Wesleaid i lanw lle a oedd yn wag yn Sierra Leone. Cafodd dwymyn gas yno, bu'n dihoeni am fisoedd, a marw y dydd cyntaf o fis Gorffennaf 1840 ar ôl llafurio am chwe mis yn unig yn Affrica.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.