JENKINS, DAVID ERWYD (1864 - 1937), hanesydd, a gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd

Enw: David Erwyd Jenkins
Dyddiad geni: 1864
Dyddiad marw: 1937
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: hanesydd, a gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd
Maes gweithgaredd: Crefydd; Hanes a Diwylliant
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Ganwyd yn 1864 yn Llwyn-y-wiwer, Pont Yates (Llangyndeyrn), yn fab i John a Sarah Jenkins. Bedyddwyr oedd ei rieni, ond pan aeth ef yn brentis mewn siop yn Llanelli, ymaelododd yn y Capel Newydd. Wedi bwrw tymor yn Llundain, aeth yn was i ddilledydd yng Nghasnewydd, ac yno (yn Ebeneser) y dechreuodd bregethu, yn 1885. Aeth i ysgol Thomas James yn Llandysul, ac oddi yno i Goleg Aberystwyth. Derbyniodd alwad i Saron, Llanbadarn-fawr, yn 1893, ac ordeiniwyd ef yn 1894. Ymhen dwy flynedd, symudodd i gapel Saesneg Tremadog. Yno, yn 1899, y cyhoeddodd y gyfrol Beddgelert, ac amryw gyfieithiadau yn y gyfres ' Cyfres Ieuenctid Cymru.' Yn 1901, galwyd ef i gapel Saesneg Dinbych. Yn Ninbych y dechreuodd ei yrfa fel chwilotwr i hanes ei gyfundeb. Adargraffodd (1905 a 1906) ddau hen bamffled gwrth- Fethodistaidd T. E. Owen a Hugh Davies o'r Aber. Ond ei gampwaith oedd ei dair cyfrol ddihysbyddol Thomas Charles, 1908, llyfr a ddug iddo'r radd o D.Litt. gan Brifysgol Lerpwl. Ymddeolodd o'i ofalaeth yn 1911 - y flwyddyn y cyhoeddodd Calvinistic Methodist Holy Orders, llyfr bychan sy'n enghraifft well o'i fedr fel hanesydd na'r gwaith afrosgo, ac anghymesur braidd, ar Thomas Charles. Penodwyd ef yn awr yn fath o chwilotwr swyddogol i'w gyfundeb, a dechreuodd ar y gwaith o gopïo a chyhoeddi llythyrau a dyddlyfrau Trefeca, mewn atodiadau i Cylchgrawn Cymdeithas Hanes y Methodistiaid Calfinaidd, ond aeth y cynllun o chwith, torrodd rhyfel 1914, ac aeth yntau (1915) yn athro yn ysgol ganolradd Dinbych; parhaodd felly hyd 1930. Bu farw 6 Medi 1937, yn Llwyn-yr-eos, Pont-Henri (pan ar ymweliad â'i ardal enedigol), a chladdwyd ef yno ym mynwent y Bedyddwyr; y Sul cynt, yr oedd wedi pregethu yn Ebeneser, Casnewydd, y capel y pregethodd gyntaf ynddo. Heblaw'r llyfrau a enwyd, sgrifennodd nifer da o ysgrifau i'r cyfnodolion, ar hanes Methodistiaeth; bron ar ddiwedd ei oes, dychwelodd at y gwaith o adangraffu hen ddogfennau, gyda Religious Societies Josiah Woodward, a gyhoeddodd yn 1935. Yr oedd yn chwilotwr o graffter a dycnwch anarferol. Nid oedd ei arddull yn hapus; sgrifennai braidd yn ddadleugar, onid yn wir yn herfeiddiol, a thueddid felly i'w gam-farnu - ond yr oedd mewn gwirionedd yn hynod garedig a chymwynasgar i'w gyd-chwilotwyr, a rhoddai help ewyllysgar pan ofynnid ganddo.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.