JENKINS, HERBERT (1721 - 1772), cynghorwr bore gyda'r Methodistiaid, a gweinidog Annibynnol wedyn

Enw: Herbert Jenkins
Dyddiad geni: 1721
Dyddiad marw: 1772
Rhiant: Herbert Jenkins
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: cynghorwr bore gyda'r Methodistiaid, a gweinidog Annibynnol wedyn
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Ganwyd ym Mynydd-islwyn. Yn ôl Bradney (Hist. of Mon., I, ii, 442), yr oedd yn fab i Herbert Jenkins ac yn ŵyr i'r William Jenkins o blwyf Aberystruth a oedd yn gurad Trefethin (Pontypŵl) o 1726 hyd 1736 ac yn cadw ysgol yno. Efallai i rieni'r ŵyr droi'n Ymneilltuwyr; y mae traddodiad eu bod yn ddeiliaid i Edmund Jones, a chan Ymneilltuwr (Bernard Fosket) ym Mryste yr addysgwyd y bachgen. Atynwyd ef i'r mudiad Methodistaidd, a thybir iddo ddechrau cynghori yn 1740. Esgynnodd yn gyflym i fri fel cynghorwr, a'i enw ef sy'n flaenaf ar y rhestr o 'gynghorwyr cyhoedd' a awdurdodwyd gan sasiwn Watford yn Ionawr 1743. Ni phennwyd cylch neilltuol yng Nghymru iddo, ond yr oedd i fod at alwad Howel Harris ac i gydweithio â'r Methodistiaid Seisnig. Yn wir, serch ei fod wedi pregethu 'n dderbyniol iawn yn Nyfed yn 1741 (a chael ei drin yn hallt gan Griffith Jones yn Llanddowror) ac wedyn yn 1743 (Cylchgrawn Cymdeithas Hanes y Methodistiaid Calfinaidd, iv, 7-8) - serch hefyd iddo gyfansoddi emynau Cymraeg a welir yn Sail, Dibenion, a Rheolau'r Cymdeithasau Neilltuol, 1742, ac yn Hymnau ar Amryw Ystyriaethau, 1744, a chyhoeddi cyfieithiad, 1745, o bamffled James Humphreys yn amddiffyn Methodistiaeth (Atteb i bob dyn a ofynno rheswm am y gobaith sydd ynom ) - fe'i collwyd i'r gwaith yng Nghymru o hynny allan. Gyda John Cennick a Methodistiaid Seisnig eraill, ac yn Lloegr, y llafuriai bellach; derbyniwyd ef yn aelod o'u ' Conference ' ym mis Mawrth 1744 ('Tabernacle Conference Book ' yn N.L.W. - y mae dyfyniadau ohono yn Y Traethodydd, 1936, 159-62), a mynychai gyfarfodydd hwnnw. Ni bu'n dda rhyngddo a Howel Harris; ffieiddiai Forafiaeth, a gwelai fai ar Harris am glosio cymaint ati; yr oedd hefyd yn dechrau teimlo anesmwythyd ynghylch pregethu heb fod ganddo urddau, ac ar yr un pryd yn teimlo'n gynyddol anniddig at yr Eglwys Sefydledig - yr oedd wedi cael awgrym nid anghyfeillgar gan esgob Bryste nad oedd hi'n debyg y câi urddau yn yr Eglwys. Eto, drwy holl ymrafaelion blin y Tabernacl, glynodd Jenkins yn hwy nag amryw o'i gydlafurwyr wrth achos Whitefield. Nid hawdd yw derbyn y stori iddo fynd at y Wesleaid; gwir fod ganddo barch mawr i John Wesley, a byddai'n mynychu'r cynadleddau Wesleaidd o dro i dro, fel Howel Harris hefyd, eithr yr oedd yn Galfin pendant, ac yn gwrthwynebu 'Baxteriaeth.' Nid cyn mis Mai 1748 y cefnodd ar Whitefield a'i enwad. Trodd at yr Annibynwyr, ac yn 1749 urddwyd ef yn weinidog ym Maidstone, lle y bu farw 11 Rhagfyr 1772, yn 51 oed. Herbert Jenkins, yn ddiamau, oedd y galluocaf o'r cynghorwyr Cymreig bore - 'a very solid man,' chwedl cofnod Morafaidd yn Hwlffordd. Y mae cryn nifer o lythyrau ganddo ac ato yng nghasgliad Trefeca yn Ll.G.C.

Tyb rhai mai brawd i Herbert Jenkins oedd DAVID JENKINS ('y diweddar D. Jencins'), cydawdur yr Hymnau ar Amryw Ystyriaethau (uchod).

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.