JENKINS, ISAAC (1812 - 1877), gweinidog Wesleaidd

Enw: Isaac Jenkins
Dyddiad geni: 1812
Dyddiad marw: 1877
Priod: Elizabeth Jenkins (née Hughes)
Rhiant: Edward Jenkins
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog Wesleaidd
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Griffith Thomas Roberts

Ganwyd 25 Chwefror 1812, yng Nghwm Rheidol, Sir Aberteifi, mab Edward Jenkins, Ystumtuen. Addysgwyd ef mewn ysgolion lleol; bu'n ysgolfeistr mewn amryw fannau yng Ngheredigion a Maldwyn; ac wedi ei dderbyn i'r weinidogaeth cafodd addysg bellach yn Sefydliad Diwinyddol Hoxton (1834-6). Gweinidogaethodd ar gylchdeithiau Abertawy (1836), Caerdydd (1838), Llanidloes (1839), Aberhonddu (1842), Merthyr (1843), Caerfyrddin (1845), Tyddewi (1848), Aberhonddu (1851), Pen-y-cae (1854), Caerdydd (1856), Aberdâr (1859), y Bont-faen (1862), Abertawy (1865), Merthyr (1868), Caerdydd (1871). Bu'n ysgrifennydd talaith Gymraeg Deau Cymru (1843-66) a'i chadeirydd (1866-74). Priododd Elizabeth, merch y Parch. Hugh Hughes (1778 - 1855). Ymneilltuodd yn 1874 a bu farw ym Merthyr, 25 Awst 1877. Golygodd Trysor i Blentyn, 1839-41, Yr Eurgrawn Wesleyaidd, 1839-41, a thrachefn gyda'r Dr. Thomas Jones, 1857-9; yr oedd yn un o gychwynwyr Y Winllan, 1848; yn awdur ysgrifau lawer i'r Eurgrawn, ac amryw lyfrau, esboniadol yn bennaf, a golygodd Bywyd a Gweinidogaeth Hugh Hughes, 1856. Ef hefyd oedd un o olygyddion Casgliad o Hymnau, 1845.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.