JENKIN, JOHN ('Ioan Siengcin '; 1716 - 1796), prydydd ac athro

Enw: John Jenkin
Ffugenw: Ioan Siengcin
Dyddiad geni: 1716
Dyddiad marw: 1796
Rhiant: Siencyn Thomas
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: prydydd ac athro
Maes gweithgaredd: Addysg; Barddoniaeth
Awdur: Geraint Bowen

Ganwyd yn y Cwm Du, Llechryd, 1716, mab Jenkin Thomas, crydd, pregethwr Ymneilltuol, a phrydydd, ac awdur yr ' In Laudem Authoris ' yn Drych y Prif Oesoedd, 1716. Dysgodd grefft grydda gan ei dad, a bu'n dilyn honno yn Aberteifi hyd 1754 pan gymhellwyd ef gan Griffith Jones, Llanddowror, i fynd i Nanhyfer i gadw ysgol Gymraeg. Trowyd hon yn ysgol Saesneg yn 1780. Daliodd yntau yn athro arni hyd 1793 o leiaf. Bu farw yn 1796 ac fe'i claddwyd yn Llangoedmor. Cafodd addysg farddol gan ei dad. Dylanwadwyd arno'n drwm gan Ramadeg Siôn Rhydderch. Canai yn y mesurau caeth a rhydd i'r uchelwyr, yn enwedig i'w noddwr Thomas Lloyd, Cwmgloyn. Ymwelodd ag eisteddfod Llanidloes 1772, a threfnu eisteddfod Aberteifi 1773. Adnabu 'Ieuan Brydydd Hir' a chanodd englyn beddargraff i Lewis Morris.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.