JENKINS, JOSEPH (1859 - 1929), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd

Enw: Joseph Jenkins
Dyddiad geni: 1859
Dyddiad marw: 1929
Rhiant: mary Jenkins (née Howells)
Rhiant: John Jenkins
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Robert Morton Stanley Ellis

Ganwyd yn Nhan-y-chwarel, Cwmystwyth, 2 Tachwedd 1859, cofrestrwyd yn Llanbedr-Pont-Steffan, 3 Rhagfyr 1859. Ei dad oedd John Jenkins, mwynwr plwm, a'i fam oedd Mary, gynt Howells.

Yn ifanc aeth yn brentis dilledydd at John Lloyd, Pentre, Rhondda; ymaelododd yn Nazareth, ac yno y dechreuod bregethu. Addysgwyd ef yn ysgol William James, Canton, Caerdydd, academi Pontypridd, a Choleg Trefeca. Ordeiniwyd ef yng nghymdeithasfa Aberystwyth, 1887. Bugeiliodd eglwysi Caerffili, Spellow Lane (S.), Lerpwl, Ceinewydd, Salem (Dolgellau), Garregddu (Ffestiniog), a Llanymddyfri. Bu farw 27 Ebrill 1929, a chladdwyd ef ym mynwent capel Cwmystwyth. Yr oedd yn gyfrwng amlwg yn niwygiad 1904-5.

Llosgfynydd o bregethwr ydoedd - ar adegau yn ddi-fywyd, ac ar adegau yn hylif eirias; fel personoliaeth a phregethwr yr oedd yn hollol ar ei ben ei hun.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.