JENKINS, THOMAS JOHN PRICE (1864 - 1922), meddyg, a chwaraewr pêl droed (Rygbi), sylfaenydd clwb Rygbi y 'London Welsh'

Enw: Thomas John Price Jenkins
Dyddiad geni: 1864
Dyddiad marw: 1922
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: meddyg, a chwaraewr pêl droed (Rygbi), sylfaenydd clwb Rygbi y 'London Welsh'
Maes gweithgaredd: Meddygaeth; Chwaraeon a Gweithgareddau Hamdden
Awdur: Moelwyn Idwal Williams

mab i reithor Llanllwch yn Sir Gaerfyrddin; addysgwyd yn Ysgol Llanymddyfri, Caergrawnt (gweler The Times, 7 Awst 1922), ac Ysbyty S. Bartholomew. Chwaraeodd (fel canolwr) dros Gymru ddwywaith yn 1888, ac ef a enillodd yr unig 'gais' pan gurwyd Sgotland gan Gymru, am y tro cyntaf, yn yr ornest honno. Daeth yn M.R.C.S. a L.R.C.P., ac yr oedd yn brif swyddog meddygol recriwtio i'r fyddin yn Llundain. Bu farw 6 Awst 1922.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.