JOAN
(bu f.
1237
),
tywysoges
;
merch ordderch y
brenin
John
o fam anhysbys. Dyweddïwyd hi â
Llywelyn
I
yn
1204
a phriodwyd hwynt yn
1205
. Yr oedd ei gwasanaeth fel
cennad
a
chyfryngwr
rhwng ei gŵr a'r
Goron
yn y cyfnod
1211-32
yn bwysig. Ar waethaf y gyfathrach anghyfreithlon drychinebus a fu rhyngddi â
William de
Breos
[q.v.]
— a barodd iddi gael ei charcharu am gyfnod byr — ymddengys fod hoffter
Llywelyn
ohoni yn wirioneddol. Pan fu hi f., yn y llys yn
Aber
ar
2 Chwefror 1237
, dygwyd ei chorff dros
afon Menai
a'i gladdu mewn claddfa newydd yn ymyl maenor
Llanfaes
lle y sefydlodd
Llywelyn
gwfaint i'r
Francisiaid
er cof amdani. Hyhi oedd mam
David
II
[q.v.]
.
Llyfryddiaeth:
-
A History of Wales
, 1911, 1930
;
-
Dictionary of National Biography
Awdur:
Yr Athro Thomas Jones Pierce, M.A., F.S.A., (1905-1964),
Aberystwyth.