JOHN, THOMAS (1816 - 1862), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd

Enw: Thomas John
Dyddiad geni: 1816
Dyddiad marw: 1862
Rhiant: Hannah John
Rhiant: Lewis John
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Gomer Morgan Roberts

Ganwyd 29 Medi 1816, yng Nghilgeran, Sir Benfro, mab Lewis a Hannah John. Ymaelododd â'r Methodistiaid c. 1837, a dechreuodd bregethu yn 1839. Ordeiniwyd ef yn sasiwn Tyddewi, 1846, bu dan addysg yn Nhrefeca yn 1849, a bu farw 27 Tachwedd 1862. Yr oedd yn bregethwr hynod yn ei ddydd. Yr oedd ei gorff tenau, esgyrnog, ei wyneb salw, a'i ddull dramatig, brawychus, wrth draddodi, yn creu arswyd nid bychan ymhlith ei wrandawyr.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.