Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



JONES , WILLIAM BASIL ( TICKELL ) ( 1822 - 1897 ), esgob , mab William Tilsley Jones o'r Gwynfryn , Llangynfelyn , sir Aberteifi , a Jane ei wraig; g. yn Cheltenham , 2 Ionawr 1822 . Cafodd ei addysg yn ysgol Amwythig a Choleg y Drindod , Rhydychen , lle y bu'n ysgolor, 1840-5 ; enillodd un o brif wobrau clasurol y brifysgol a graddio'n B.A. yn 1844 â chlod yn yr ail ddosbarth yn y clasuron. Cymerodd ei M.A. yn 1847 , bu'n gymrawd o Goleg y Frenhines ac yna o Goleg University , a chwarae rhan amlwg yng ngwaith academig y brifysgol.

Urddwyd ef yn ddiacon yn 1848 ac yn offeiriad yn 1853 ; dilynodd ei gyfaill yr archesgob William Thomson i esgobaeth Caer Efrog yn 1865 , a bu ganddo amryw swyddi eglwysig yno. Ar ôl treulio saith mlynedd ( 1867-74 ) yn archddiacon Caer Efrog , dyrchafwyd ef yn esgob Tyddewi yn 1874 , a daliodd y swydd hyd ei f. yn Abergwili , 14 Ionawr 1897 . Priododd, (1), 10 Medi 1856 , Frances Charlotte , merch y Parch. Samuel Holworthy ; bu hi farw'n ddiblant 21 Medi 1881 ; (2), 2 Rhagfyr 1886 , Anne , merch G. H. Loxdale , Aigburth , ger Lerpwl . Gadawodd hi'n weddw a mab a dwy ferch. Claddwyd ef ym meddrod y teulu yn Llangynfelyn .

Parhaodd yn Nhyddewi y gwaith a gychwynnwyd gan ei ddau ragflaenydd, Thomas Burgess [q.v.] a Connop Thirlwall [q.v.] , a'i ddatblygu. Dyrchafodd safon gwaith yr esgobaeth, yn ysbrydol, yn fugeiliol, ac yn addysgol, ac ad-drefnu ei pheirianwaith. Medrai siarad Cymraeg , ond nid yn rhugl; eithr ni faliai lawer am genedligrwydd arbennig Cymru . Yr oedd yn gryn ysgolhaig , fel y dengys ei lyfrau, megis The Vestiges of the Gael in Gwynedd , 1851 ; The History and Antiquities of S. David's (gydag E. A. Freeman ), 1852-7 ; argraffiadau o ddrama Sophocles , Oidipws y Brenin , ac amryw bregethau ac areithiau.

Llyfryddiaeth:

  • Dictionary of National Biography

Awdur:

Thomas Iorwerth Ellis, M.A., (1899-1970), Aberystwyth.