JONES, JOHN BOWEN (1829 - 1905), gweinidog Annibynnol

Enw: John Bowen Jones
Dyddiad geni: 1829
Dyddiad marw: 1905
Plentyn: Ivor Bowen
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog Annibynnol
Maes gweithgaredd: Crefydd; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: John Dyfnallt Owen

Ganwyd 10 Chwefror 1829 yn Blaenborthyn, Llanwenog, Sir Aberteifi. Addysgwyd ef yn ysgolion lleol Capel Dewi a Waunifor ac yn ysgol ramadeg Llandysul. Cafodd gwrs disglair yng Ngholeg Presbyteraidd Caerfyrddin, 1846-51; yr oedd yn un o'r rhai cyntaf yng Nghymru i raddio yn B.A., Llundain (1850). Bu am flwyddyn ychwanegol yn y coleg yn astudio diwinyddiaeth.

Dechreuodd bregethu yn 1847 yn Brynteg, lle yr oedd yn aelod, ordeiniwyd ef yn Awst 1851, a bu'n weinidog Hermon (Llansadwrn) a Tabor (Llanwrda), 1851-9, Penybont-ar-Ogwr, 1859-74, Coety, 1863-74, a'r Plough (Aberhonddu), 1874-1903. Cadwai ysgol baratoi pregethwyr ym Mhenybont-ar-Ogwr ac Aberhonddu.

Bu'n llywydd yr Undeb (1894); yr oedd yn un o gychwynwyr Y Beirniad (1850-79), a bu'n golygu Y Cennad Hedd (1866-1903) a'r Beirniad (1875-9). Cyhoeddodd Y Blodeuglwm, 1876, a golygodd Casgliad o Hen Emynau (1877 a 1883 ). Cyfrannodd gymaint â neb yn ei oes i gylchgronau Cymreig ei gyfnod. Yr oedd yn bregethwr galluog a gwreiddiol, o deithi athronyddol, ac yn ysgolhaig rhagorol.

Bu farw 10 Rhagfyr 1905. Mab iddo oedd y barnwr Ivor Bowen.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.