Y Bywgraffiadur Cymreig


A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



JONES , CAIN ( fl. 1775-95 ), almanaciwr ;

mab John Edwards (‘ Sion y Potiau ’) [q.v.] . Ni wyddys ddyddiad ei eni, ond bedyddiwyd ei frawd Abel , a fu'n weinidog gyda'r Bedyddwyr ym Merthyr Tydfil , yn Llansantffraid Glyn Ceiriog , 21 Rhagfyr 1740 , a theg yw casglu fod Cain yn hŷn nag Abel . Ar farwolaeth Gwilym Howel [q.v.] , yn 1775 , ymgymerodd â golygu'r almanac Tymmhorol, ac wybrennol Newyddion . Bu'n gyfrifol am 20 rhifyn a gyhoeddwyd gan Eddowes yn Amwythig , ac eithrio'r olaf yn unig, sef rhifyn 1795 , a gyhoeddwyd gan J. Marsh yng Ngwrecsam . Nid oes gofnod am almanac diweddarach ganddo. Yr oedd yn ymhel rhyw gymaint â barddoniaeth, a cheir marwnad o'i waith yn almanac 1783 .

Mab iddo oedd JOHN JONES (bu f. 1826? ), a ysgrifennai dan yr enw ‘ Siôn Ceiriog .’ Ceir llythyrau gan John Cain Jones yn N.L.W. MS. 1891 , penillion ar donau ‘ Y Mynach Du ’ a ‘ Gwel yr Adeilad ’ yn N.L.W. MS. 1817 , salmdonau yn N.L.W. MS. 1932 , ‘ Cerdd hanes rhyw gidwm gwaedlyd o'r Cymdu ’ yn N.L.W. MS. 6729 , a ‘ Cerdd annerch Mr. Edward Bennion, physygwr ,’ yn N.L.W. MS. 12868 . Dywedir iddo f. yn 1826 , a bod ganddo ferch, Leah Evans , yn brydyddes awenyddol yng Nglyn Ceiriog .

Ffynonellau:

  • W. Rowlands , Llyfryddiaeth y Cymry (Llanidloes, 1869) , 503;
  • Y Tyst Apostolaidd , 1850 , 136-7;
  • almanaciau Cain Jones.

Awdur:

Evan David Jones, F.S.A., (1903-87), Aberystwyth

Blwyddyn Cyhoeddi: 1953-54