Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



JONES , WILLIAM COLLISTER ( 1772 - ? ), argraffydd yng Nghaer ; bedyddiwyd 12 Gorffennaf 1772 , mab William a Sarah Jones , Caer . Ceir ef a Thomas Crane yn argraffu llyfrau Cymraeg yng Nghaer o c. 1796 ymlaen. Yn 1798 dechreuasant gyhoeddi llyfrau crefyddol dros Thomas Charles , Bala , a Thomas Jones , Dinbych ; cyn diwedd 1798 , fodd bynnag, enw W. C. Jones yn unig a geir; e.e. T. Charles , Hanes Fer o For-Daith y Llong Duff. Bu'n argraffu Trysorfa Ysbrydol o 1799 hyd 1802 . Prentis yn swyddfa Crane a Jones yng Nghaer oedd y Robert Saunderson [q.v.] a ddechreuodd argraffu dros Thomas Charles a Thomas Jones yn y Bala yn 1803 ; prentisiaid eraill oedd Thomas Gee [q.v.] a John Broster [q.v.] . Y mae'n debygol i W. C. Jones beidio ag argraffu llyfrau Cymraeg tua'r flwyddyn 1807 .

Llyfryddiaeth:

  • Morris Parry , ‘Chester Welsh Printing’ yn Journal of the Architectural, Archaeological and Historic Society of Chester and North Wales , 1913 ;
  • id., Gwasg Gymraeg Caerlleon , Caerlleon, 1931 , 1931 ;
  • Ifano Jones , A history of printing and printers in Wales to 1810, and of successive and related printers to 1923. , 1925 .

Awdur:

Syr William Llewelyn Davies, M.A., LL.D., F.S.A. (1887-1952), Aberystwyth