JONES, DAVID (1663 - 1724?), clerigwr

Enw: David Jones
Dyddiad geni: 1663
Dyddiad marw: 1724?
Rhiant: Matthew Jones
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: clerigwr
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Robert Thomas Jenkins

mab i Matthew Jones o Gaerfallwch, Sir y Fflint. Bu yn Ysgol Westminster ac aeth i Goleg Eglwys Crist, Rhydychen, yn 1681, yn 18 oed; graddiodd yn 1685. Cafodd amryw fywiolaethau yn Lloegr, ond byr, fel rheol, fu ei arhosiad yn ei wahanol blwyfi - gweler y manylion yn ysgrif D. Lleufer Thomas yn y D.N.B. Hynodid ef gan ei bregethu 'Jacyddol' (ag arfer ymadrodd ' Brutus ') a'i dymer afrywiog - onid gorffwyll, yn wir. Bu farw mewn dygn dlodi. Yr unig reswm dros ei gynnwys yn y gyfrol hon yw mai efe oedd gwrthrych y ddychan adnabyddus The Welch Levite tossed in a Blanket, 1692, gan Thomas Brown.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.