JONES
,
DAVID
(
1736
-
1810
),
clerigwr Methodistaidd
;
g.
10 Gorffennaf 1736
, yn
Aberceiliog
,
Llanllwni
,
sir Gaerfyrddin
, mab
Richard
a
Gwenllian
Jones
. Addysgwyd ef yn
ysgol ramadeg Caerfyrddin
. Ef, ond odid, yw'r ‘
David
Jones
of
Llanvernach
’ a ordeiniwyd yn
ddiacon
gan
esgob Tyddewi
yn
1758
; gwyddys ei fod yn
gurad
Tydweiliog
,
Llŷn
, yn
1758-9
, a gwasnaethai yn
Llanafan Fawr
,
Brycheiniog
yn
1759-60
. Ordeiniwyd ef yn
offeiriad
yn
1760
, a cheir ef yn
gurad
Trefddyn
a
Caldicot
,
Mynwy
, yr un flwyddyn. Aeth wedyn i ryw blwyf gerllaw
Bryste
, a symudodd i
Crudwell
,
Wiltshire
, yn
1764
. Daeth i gyswllt â'r
arglwyddes Huntingdon
yno, ac yn
1767
cafodd fywoliaeth
Llan-gan
,
Morgannwg
, gan yr
arglwyddes
Charlotte
Edwin
[q.v.]
. Priododd, (1),
Sinah
Bowen
,
Gwaunifor
(bu f.
1792
), (2)
Mrs.
Bowen
Parry
,
Maenorowen
,
sir Benfro
. Rhannodd ei amser rhwng
Morgannwg
a
Phenfro
ar ôl ei ail briodas. Bu f. ym
Maenorowen
,
12 Awst 1810
. Dechreuodd gyfathrachu â'r
Methodistiaid
pan oedd ym
Mynwy
, a daeth yn ŵr blaenllaw yn eu plith ar ôl ymsefydlu yn
Llan-gan
. Bu
Llan-gan
yn gyrchfan poblogaidd gan
Fethodistiaid
Morgannwg
; heidient yno wrth y cannoedd i gymuno.
Adeiladodd gapel
i'w ddilynwyr ym mhlwyf
Llangrallo
, sef
Salem
,
Pen-coed
, yn
1771
. Yr oedd yn
bregethwr
melys iawn; yn ôl
‘
Pantycelyn
’
medrai doddi'r ‘
cerrig â'i ireidd-dra
’ a gwneuthur ‘
i'r derw mwyaf caled blygu'n ystwyth fel y brwyn
.’ Dywedir ei fod yn erbyn mudiad yr ordeinio ymhlith y
Methodistiaid
, ond bu f. pan oeddid yn trefnu ar gyfer hynny. Cyhoeddodd ddau lyfryn: (a)
Llythyr oddi wrth Dafydd ab Ioan y Pererin, at Ioan ab Gwilim
(
Trefeca
,
1784
), a gynnwys gofiant byr i
Christopher
Bassett
[q.v.]
,; (b)
A Funeral Sermon … of the Late Countess Dowager of Huntingdon
(
Llundain
,
1791
).
Llyfryddiaeth:
-
W. Williams
,
;
-
,
1850
, 141-63;
-
E. Morgan
,
;
-
D. E. Jenkins
,
, i, 188-9;
-
, i. 459-77;
-
, xx, 86, 96-100;
-
, N.L.W.
Awdur:
Atodiadau a chywiriadau:
JONES
,
DAVID
(
Bywg.
, 423-4)
Ychwaneger yn y llyfr.
Cylch. Cymd. Hanes M.C.
, xlii, 12-21 (‘
Nodiadau ar David Jones, Llan-gan
G.M.
R.
).