JONES, DAVID (1770 - 1831), gweinidog gyda'r Annibynwyr, emynydd a cherddor

Enw: David Jones
Dyddiad geni: 1770
Dyddiad marw: 1831
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog gyda'r Annibynwyr, emynydd a cherddor
Maes gweithgaredd: Crefydd; Cerddoriaeth; Barddoniaeth
Awdur: Robert David Griffith

Ganwyd yn Coed-y-ddôl, Llanuwchllyn, Sir Feirionnydd, Hydref 1770. Gwneuthurwr llestri coed ydoedd ei alwedigaeth. Yn ddyn ieuanc aeth am gwrs o addysg i'r athrofa yn Wrecsam o dan yr athro Jenkin Lewis. Yn 1801 aeth i Dreffynnon i ofalu am yr eglwys Annibynnol yno. Cyhoeddodd gasgliad o emynau yn 1821, a chafwyd ail argraffiad yr un flwyddyn yn cynnwys Egwyddorion neu Dôn-raddau Peroriaeth a amcanwyd yn bennaf er anogaeth a chynorthwy i bobl ieuanc (3ydd arg. yn 1826). Aeth i Fanceinion yn 1831 i gasglu at gynorthwyo eglwysi gweiniaid. Bu farw 25 Awst 1831, yn Lerpwl, trwy ddamwain, a chladdwyd ef yn Nhreffynnon.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.