JONES, JOSEPH DAVID (1827 - 1870), athro a cherddor

Enw: Joseph David Jones
Dyddiad geni: 1827
Dyddiad marw: 1870
Priod: Catherine Jones (née Daniel)
Plentyn: D. Lincoln Jones
Plentyn: Henry Haydn Jones
Plentyn: Owen D. Jones
Plentyn: John Daniel Jones
Rhiant: Catherine Jones
Rhiant: Joseph Jones
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: athro a cherddor
Maes gweithgaredd: Addysg; Cerddoriaeth
Awdur: Robert David Griffith

Ganwyd yn 1827 yn Bryncrugog, plwyf Llanfaircaereinion, Sir Drefaldwyn, mab Joseph a Catherine Jones. Gwehydd oedd y tad, a phregethai gyda'r Wesleaid. Yn 14 oed mynychai Joseph gyfarfod canu a gynhelid yn Nolanog, rhyw ddwy filltir o'i gartref. Dangosodd y tad wrthwynebiad mawr iddo fynd i'r cyfarfodydd canu, ac ni allai oddef iddo golli ei waith gyda cherddoriaeth. Symudodd y teulu i Pantgwyn ger Llanfaircaereinion a chafodd well cyfleusterau i ddysgu cerddoriaeth yno. Anrhegwyd ef â sielo a dysgodd ei chwarae yn lled dda. Dechreuodd gyfansoddi tonau, a chyn bod yn 20 oed dug allan Y Perganiedydd, casgliad o donau; trodd yr anturiaeth allan yn llwyddiant ariannol. Wedi colli ei fam gorfu iddo gefnu ar ei gartref, ac aeth i Dywyn, Meirionnydd, i ofalu am un o'i gyd-ysgolheigion a oedd yn wael ei iechyd. Ar gais nifer o gyfeillion agorodd ysgol yno, a bu yno yn llafurio gyda cherddoriaeth am dair blynedd. Cynhaliai ysgolion canu bob wythnos yn Nhywyn, Aberdyfi, Llanegryn, a Bryncrug. Aeth am chwe mis o addysg i Goleg Hyfforddiadol Borough Road, Llundain, a dychwelodd yn ôl i Dywyn. Yn Hydref 1851 penodwyd ef yn athro yr Ysgol Frutanaidd. Yn Ionawr 1860 priododd Catherine Daniel, Caethle, Tywyn. Yn 1865 rhoddodd ei swydd i fyny yn yr Ysgol Frutanaidd, a sefydlodd ysgol ramadeg breifat yn Clwyd Bank, Rhuthyn.

Gwnaeth gyfraniad gwerthfawr i gerddoriaeth Cymru. Enillodd yn eisteddfod Bethesda, 1853, am gyfansoddi anthem, 'Ymddyrcha, O Dduw,' a chafodd wobrwyon mewn amryw eisteddfodau eraill. Cyfansoddodd lawer o ganeuon, anthemau, a thonau, a chyhoeddodd Y Cerub, casgliad o donau ac anthemau; Cydymaith y Cerddor; Y Delyn Gymreig; Caniadau Bethlehem; Alawon y Bryniau (gyda'r alawon hyn y denwyd Cymru oddi wrth y baledi, ac yr arloeswyd y ffordd i ganeuon Dr. Parry, R. S. Hughes, a William Davies); Cyfrol o Anthemau; Cantawd Llys Arthur. Golygodd, gyda 'Tanymarian,' Llyfr Tonau ac Emynau, 1868; arno ef y disgynodd y gwaith mwyaf - treuliasai bedair blynedd yn casglu, dethol, a chynganeddu'r tonau. Yn 1868 hefyd cyhoeddodd ef a 'Tanymarian' Casgliad o Gorganau. Trefnodd a golygodd gasgliad arall o donau ac anthemau, at wasanaeth y Wesleaid, a chyhoeddwyd y llyfr yn 1872. Bu ei ganeuon yn boblogaidd, ac erys 'Capel y Ddol' a thonau eraill o'i waith yn boblogaidd. Bu farw 17 Medi 1870 a chladdwyd ef ym mynwent y Bedyddwyr, Rhuthyn.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.