JONES, EDWARD (1641 - 1703), esgob Llanelwy

Enw: Edward Jones
Dyddiad geni: 1641
Dyddiad marw: 1703
Rhiant: Sarah Jones
Rhiant: Richard Jones
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: esgob Llanelwy
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Ganwyd ym mis Gorffennaf 1641 yn Llwyn Rhirid, Ffordun, Maldwyn, yn fab i Richard a Sarah Jones. O Ysgol Westminster aeth yn 1661 i Goleg y Drindod yng Nghaergrawnt, graddiodd yn 1664, ac etholwyd ef yn gymrawd yn 1667. Bu'n athro ar ysgol yn Kilkenny, a Jonathan Swift yn un o'i ddisgyblion; penodwyd ef yn ganon yn Ossory, yn ddeon Lismore (1678), ac yn esgob Cloyne (1683); ond yn 1692 cafodd esgobaeth Llanelwy, yn olynydd i William Lloyd. ' Llwgr - llac - gorthrymus ' yw'r disgrifiad cryno a roddir o'i ymdrin â'i esgobaeth yno. Aeth yn ormod i'w oddef; yn 1697 achwynodd ei glerigwyr arno wrth archesgob Caergaint. Gwysiwyd ef o flaen llys yr archesgob yn 1698, ond llwyddodd ei gefnogwyr i ohirio'r praw hyd 1700. Yn 1701 amddifadwyd ef o'i swydd (ac o'i dâl) 'am chwe mis - a mwy, hyd oni wnâi iawn,' ac nid cyn 1702 yr adferwyd ef. Bu farw 10 Mai 1703.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.