JONES, EDWARD ('Bardd y Brenin'; 1752 - 1824), telynor, trefnydd a chyhoeddwr cerddoriaeth i'r delyn, casglwr a chyhoeddwr hen benillion, alawon cenedlaethol, a chyfieithiadau i'r Saesneg, hanesydd llenyddiaeth Gymraeg ac offerynnau cerdd y Cymry, casglwr llawysgrifau a hynafiaethydd

Enw: Edward Jones
Ffugenw: Bardd Y Brenin
Dyddiad geni: 1752
Dyddiad marw: 1824
Rhiant: Jane Jones
Rhiant: John Jones
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: telynor, trefnydd a chyhoeddwr cerddoriaeth i'r delyn, casglwr a chyhoeddwr hen benillion, alawon cenedlaethol, a chyfieithiadau i'r Saesneg, hanesydd llenyddiaeth Gymraeg ac offerynnau cerdd y Cymry, casglwr llawysgrifau a hynafiaethydd
Maes gweithgaredd: Hanes a Diwylliant; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Cerddoriaeth; Perfformio; Argraffu a Chyhoeddi; Ysgolheictod ac Ieithoedd
Awdur: Tecwyn Ellis

Ganwyd yn Henblas, Llandderfel, Sir Feirionnydd, a'i fedyddio 29 Mawrth 1752, pedwerydd plentyn John a Jane Jones o naw o blant. Dywedir bod y tad yn gerddor galluog, yn fedrus ar ganu amryw o offerynnau, yn delynor, a gwneuthurwr telynau. Hyfforddwyd rhai o'r plant ganddo i ganu gwahanol offerynnau, a pharatowyd Edward ar gyfer galwedigaeth gerddorol. Ymddiddorodd yn gynnar mewn barddoniaeth ac arferion brodorol.

Aeth i Lundain tua 1775 dan nawddogaeth boneddigion Cymreig. Daeth i gyswllt â'r Dr. Burney bron ar unwaith, a bu'n athro ar ganu'r delyn i amryw bersonau bonheddig. Apwyntiwyd ef yn delynor i dywysog Cymru; o tua 1790 ymlaen defnyddiodd y teitl yn gyson hyd 1820. Ar ôl i'r tywysog ddod yn frenin, dechreuwyd ei alw'n ' Fardd y Brenin.' Trigai yn mhlas S. James o 1805 hyd 1820 yn ' The Office of Robes,' a daliai swydd o ryw fath yno. Ymwelai â thai gwŷr bonheddig yn Lloegr, a deuai i Gymru yn ystod yr haf. Rhoes fedal i'r canwr gorau gyda'r tannau yn eisteddfod Corwen, 1789, ac am y casgliad gorau o benillion yn y Bala yr un flwyddyn. Yr oedd yn y ddwy 'Orsedd' ar Fryn y Briallu, h.y. Primrose Hill, Llundain, yn 1792. Ef oedd y beirniad ar ganu'r delyn yn eisteddfod Caerfyrddin, 1819, ac eisteddfod Wrecsam, 1820.

Cyhoeddodd oddeutu 20 o lyfrau'n cynnwys caneuon gyda'r cyfeiliannau wedi eu trefnu i'r harpsichord, y piano, neu'r delyn, trefniadau o weithiau cyfansoddwyr clasurol ac eilradd, alawon cenedlaethol gydag amrywiadau, a chyfansoddiadau o'i eiddo ei hun ymysg pethau eraill. Cynnwys y Lyric Airs (1804) draethawd llafurfawr ar gerddoriaeth hynafol Groeg. Ond ei lyfrau pwysig yw'r tair cyfrol: The Musical and Poetical Relicks of the Welsh Bards , cyfrol gyntaf, 1784 (ailargraffiad gydag, ychwanegiadau sylweddol, 1794 ), ail gyfrol, The Bardic Museum , 1802, trydedd gyfrol, Hen Ganiadau Cymru, 1820.

Ystyrir y trydydd argraffiad, 1808, o'i waith yn grynhoad cynrychioliadol o'r farddoniaeth Saesneg orau sy'n deillio o darddiad Cymraeg dilys yng nghyfnod y Deffroad Celtaidd. Yr oedd ei Popular Cheshire Melodies, 1798, yn ymgais gynnar i gofnodi a chyhoeddi alawon Seisnig. Ystyrid ef yn berfformiwr da iawn, a dengys Musical Remains, 1796, ei allu. Ef oedd y cyntaf i gyhoeddi casgliad amrywiol o hen 'Benillion.' Casglodd a chyhoeddodd dros 200 o alawon Cymreig. Meddai gasgliad o lawysgrifau a llyfrau prin.

Gŵr unig, tawedog oedd. Bu farw yn ddiymgeledd 18 Ebrill 1824, a chladdwyd ef ym mynwent Marylebone.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.