JONES, EDWARD ('yr ail '; 1775 - 1838), gweinidog Wesleaidd

Enw: Edward Jones
Dyddiad geni: 1775
Dyddiad marw: 1838
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog Wesleaidd
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Griffith Thomas Roberts

Ganwyd yng Nghynwyd, 1775. Cyn ei dröedigaeth bu'n chwarae mewn anterliwtiau ac yn eu cyfansoddi. Ymunodd â'r Wesleaid yn gynnar, a gweinidogaethodd ar gylchdeithiau Biwmares (1804), Trallwng (1805), Merthyr (1806), Machynlleth (1807), Rhuthyn (1808), Dolgellau (1809), Aberystwyth (1811), ac Abertawy (1813). Oherwydd afiechyd gorfu iddo ymneilltuo yn 1815; bu farw 15 Ebrill 1838. Ceir rhestr o'i weithiau a gyhoeddwyd yn Yr Eurgrawn Wesleyaidd yn H. Wesl. G., i, 276. Dywedir iddo ef a John Bryan gyhoeddi casgliad o emynau yn 1805, ond credai T. Jones Humphreys mai Edward Jones, Bathafarn oedd cydolygydd y gwaith hwnnw.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.