JONES, JOHN EDWARD (1801 - 1866), gweinidog Undodaidd, ysgolfeistr, a golygydd cyntaf Yr Ymofynydd

Enw: John Edward Jones
Dyddiad geni: 1801
Dyddiad marw: 1866
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog Undodaidd, ysgolfeistr, a golygydd cyntaf Yr Ymofynydd
Maes gweithgaredd: Crefydd; Addysg; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Argraffu a Chyhoeddi
Awdur: Thomas Oswald Williams

Ganwyd 7 Gorffennaf 1801 yng Nghaerfyrddin, ei dad yn ddiacon yng nghapel Heol Awst. Addysgwyd ef yn ysgol ramadeg David Peter ac yng Ngholeg Caerfyrddin (1817-21). Ar derfyn ei gwrs derbyniodd alwad oddi wrth eglwysi Penybont-ar-Ogwr a Betws, lle y bu drwy gydol ei oes. Cadwodd ysgol yma hyd 1842. Pan gychwynwyd Yr Ymofynydd ef oedd y golygydd cyntaf, a bu wrthi am 13 mlynedd (Medi 1847-Ebrill 1854; Ionawr 1859-Mehefin 1865). Bu'n arholwr yng Ngholeg Caerfyrddin mewn Hebraeg a rhifyddiaeth, a gwasnaethodd yno fel athro am chwe mis yn nechrau 1860. Bu'n ddefnyddiol yn ei gylch, a gwnaeth ddiwrnod da o waith. Cyhoeddodd heblaw ei erthyglau yn Yr Ymofynydd bregeth Gymraeg, Crist yn un a'r Tad, 1847. Bu farw 25 Chwefror 1866, a chladdwyd yng Nghaerfyrddin.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.