JONES, ERASMUS (1817 - 1909), nofelydd

Enw: Erasmus Jones
Dyddiad geni: 1817
Dyddiad marw: 1909
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: nofelydd
Maes gweithgaredd: Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: Robert (Bob) Owen

Ganwyd 17 Rhagfyr 1817 ym mhlwyf Llanddeiniolen, Sir Gaernarfon. Bu yn ysgol Pentir, Sir Gaernarfon, eithr ymfudodd i Unol Daleithiau'r America yn 1833 gydag un o'i frodyr, ac ymsefydlu yn Efrog Newydd. Bu yn Trenton am gyfnod, yna yn Efrog Newydd, ac wedyn yn Remsen, Oneida County, talaith Efrog Newydd. Aeth i weinidogaeth y 'Methodist Episcopal Church' tua 1848. Yn 1852 dychwelodd i Gymru ac aros yma am gyfnod, yn pregethu, etc. Eithr aeth yn ôl i America a bu'n gaplan yn y fyddin yno. Bu hefyd yn gofalu am eglwysi yn Oneida County a mannau eraill, gan ymsefydlu yn nes ymlaen yn Utica. Cyhoeddodd The Higher Law Triumphant: The Captive Youths of Judah, 1886; The Adopted Son of the Princess (nofel a wobrwywyd yn eisteddfod Utica, 1870); The Welsh in America, 1876; Gold, Tinsel, and Trash, 1890; a Llangobaith: A Story of North Wales, 1886. Bu'n cystadlu hefyd mewn eisteddfodau, gan ennill gwobrwyon yn ' eisteddfod ffair y byd,' Chicago, 1893, eisteddfod Pittsburgh, etc. Bu farw 9 Ionawr 1909.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.