JONES, GRIFFITH (1808 - 1886), Tregarth, Bangor, gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd

Enw: Griffith Jones
Dyddiad geni: 1808
Dyddiad marw: 1886
Rhiant: John Humphreys
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Richard Thomas

Mab John Humphreys, Ty'n-y-clawdd, Tregarth. Cafodd gwrs byr o ysgol yn y Carneddi, ac wedyn yn Llanfairfechan. Gyda'i dad dysgodd grefft crydd. Dechreuodd bregethu yn 1832. Wedi iddo fod yn y Bala am oddeutu blwyddyn a chael ei dderbyn i'r gymdeithasfa yn 1834 ordeiniwyd ef yn 1845. Gwrthododd gymryd ei symud o'i fro gynefin ac yno y bu farw 18 Ebrill 1886.

Galwyd ef i fugeilio'r eglwys yn Nhregarth yn 1875. Er ei fod yn ŵr tal a chydnerth o ran ei gorff, un anhyderus a gwylaidd ei ffordd oedd Griffith Jones. Daeth craffter ac arabedd naturiol y gŵr diymhongar hwn yn hysbys i bawb o'i gyfoeswyr, ac nid rhyfedd bod cymaint galw amdano o Dde a Gogledd Cymru i bregethu a darlithio yn ei ddull digymar ei hun.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.