JONES, RHYS GWESYN (1826 - 1901), gweinidog gyda'r Annibynwyr ac awdur

Enw: Rhys Gwesyn Jones
Dyddiad geni: 1826
Dyddiad marw: 1901
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog gyda'r Annibynwyr ac awdur
Maes gweithgaredd: Crefydd; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: Robert (Bob) Owen

Ganwyd yn Penywern, Abergwesyn, sir Frycheiniog, 4 Mai 1826. Ymaelododd yn 1840 gyda'r Annibynwyr yn eglwys Moriah a dechreuodd bregethu yno yn 1844. Bu'n byw yn Ffrwd-y-Fâl, gerllaw Llandeilo, ac yn Llanofer, cyn mynd i Goleg Aberhonddu yn 1847. Bu'n gweinidogaethu yn Rhaeadr Gwy (1851), Penybont-ar-Ogwr (1857), a Merthyr Tydfil (1859), ac yn ystod y blynyddoedd hyn ysgrifennai erthyglau i'r Beirniad, Y Diwygiwr, etc.

Ym mis Mai 1867 ymfudodd i U.D.A., i gymryd gofal dwy eglwys yn Utica, talaith Efrog Newydd; bu'n gweinidogaethu wedi hynny yn Petaluma, California (1879), a New York Mills (1883). Cyhoeddodd Y Byd cyn Adda (1858, ac argraffiadau eraill), Esboniwr y Datguddiad … (Utica, 1867), Courting, Marrying, and Living (amryw argraffiadau), Yr Eglwys Bur, 1860, Y Teulu Dedwydd (Merthyr Tydfil, 1867, ac argraffiadau eraill), Llithiau ar Epistol Iago (Utica, 1874). Golygodd argraffiad o Gweledigaethau y Bardd Cwsc (Ellis Wynne) yn 1867. Gydag eraill dechreuodd sefydliad Cymreig y Bala, Powys Riley County, talaith Kansas. Bu farw 5 Medi 1901.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.