JONES, WILLIAM HENRY (1860 - 1932), newyddiadurwr a hanesydd lleol

Enw: William Henry Jones
Dyddiad geni: 1860
Dyddiad marw: 1932
Priod: Annie Elizabeth Jones (née Williams)
Rhiant: Ann Jones (née Fisher)
Rhiant: William Henry Jones
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: newyddiadurwr a hanesydd lleol
Maes gweithgaredd: Hanes a Diwylliant; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Argraffu a Chyhoeddi
Awdur: William Llewelyn Davies

Ganwyd 4 Chwefror 1860 yn y Mwmbwls, gerllaw Abertawe, mab William Henry Jones (1826 - 1912) a'i wraig Ann (Fisher). Cafodd ei addysg yn y British School, Goat Street, Abertawe, a bu am flynyddoedd wedyn yn gweithio fel newyddiadurwr a golygydd yn Abertawe, Caernarfon (1879), Exeter, Norwich, a Yarmouth cyn dychwelyd i Abertawe yn 1913. Priododd, 1885, Annie Elizabeth, merch Thomas Watkin Williams, Wellington Foundry, Abertawe. Cyhoeddodd lu o erthyglau, llyfrynnau, a llyfrau ar hanes personau a lleoedd yng Nghymru a Lloegr - gweler rhestr o 29 ar ddalen olaf ei History of Swansea and of the Lordship of Gower (Carmarthen, 1920); y llyfr hwn, ei History of the Port of Swansea (Carmarthen, 1922), a'i Old Karnarvon, 1882, ydyw ei weithiau mwyaf pwysig. Cafodd ei ddewis, c. 1920, yn llyfrgellydd a phennaeth y Royal Institution of South Wales, Abertawe; edrychid arno hefyd fel hanesydd swyddogol corfforaeth Abertawe. Bu farw 17 Mawrth 1932 yn ei gartref yn Sketty Road, Abertawe.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.